IeuanMORRISRhagfyr 23, 2023
Bu farw Ieu yn sydyn ac annisgwyl yn ei gartref 5 Rhes Cynfi, yn Neiniolen yn 69 mlwydd oed.
Gŵr cariadus a ffrind gorau Nia; tad balch a chefnogol Jeni a Trystan; mab annwyl y diweddar Jennie Blodwen a David John Morris a mab-yng-nghyfraith gofalus Margaret a'r diweddar Ellis Wyn. Brawd ffyddlon Hilda, Dave, Gwyn a'r diweddar Hefin, Gwen, Jane a Rhian. Ewythr, brawd-yng-nghyfraith a chefnder hoffus. Colled enfawr i'w deulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr am ŵr bonheddig a chydwybodol.
Angladd ddydd Sadwrn, Ionawr 6ed, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist Llandinorwig, Deiniolen am 11.30 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Eglwys Sant Deiniol, Llanddeiniolen.
Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ieu tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn i gefnogi y Band Pres.
Ymholiadau pellach i
Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Ieuan