John EilirMORRISGyda thristwch, cyhoeddwn farwolaeth Eilir, a fu farw yn ei gartref - Glennydd, Capel Bangor - ar ddydd Mercher, 26ain o Fehefin 2024, yn 93 mlwydd oed. Trysor o ŵr i Linda, tad tyner Gaenor, tad-yng-nghyfraith Phillip, tad-cu Angharad a Heledd, hen dad-cu Siwan a Cynan a ffrind da i bawb. Cynhelir angladd cyhoeddus yng Nghapel Penllwyn, Capel Bangor, ar ddydd Iau y 18fed o Orffennaf 2024 am 1:30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Cyfraniadau, os dymunir, tuag at Ymchwil Calon Cymru trwy law Selwyn Evans, D J Evans Cyfarwyddwyr Angladdau, Kairali, Penrhyncoch, Aberystwyth, SY23 3EQ. Ffôn: 01970 820249.
Keep me informed of updates