Margaret ElizabethMORRIS-JONESMORRIS-JONES - MARGARET ELIZABETH, 23ain Medi 2019. Yn sydyn ond yn dawel yn ei chartref (Dolgynfydd, Pen-y-Garth, Caernarfon) yn 78 mlwydd oed. Priod ffyddlon a gofalgar y diweddar Dafydd, mam arbennig a chariadus Raymond a Bethan a mam-yng-nghyfraith Gwenda. Chwaer annwyl Robert a'i briod Ruth a nain driw Fflur a'i phriod Rhys, Siôn a'i briod Lisa ac Annest. Hen Nain hoffus Cari Rhys, Tomos Pyrs Dafydd, Beca Rhys ac Owain Pyrs Dafydd. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth o ddiolchgarwch yng nghapel Seilo, Caernarfon, Dydd Gwener, 4ydd Hydref am 11 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ysgol Pendalar a Sefydliad Brydeinig y Galon Cymru trwy law Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Ffordd y De, Caernarfon. Ffôn (01286) 673072.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret