MathewOWENOWEN - MATHEW. 7 Awst 2015. Yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli yn 67 mlwydd oed, o 8 Church Street, Porthmadog. Mab annwyl y diweddar Dafydd John ac Eleanor. Brawd cariadus Elvira ac ewyrth i Ian a Neil. Cefnder hoffus i'w holl cefndryd a cyfneitherod. Aelod selog yng Nghapel Salem a Côr Meibion Madog gynt. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Salem, Porthmadog ar ddydd Mawrth Awst 18 am 11.00 o'r gloch ac yna i ddilyn yn Amlosgfa Bangor. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans awyr Cymru trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog. 01766 512091.
Keep me informed of updates