Mary LloydOWENOWEN - MARY LLOYD, . Rhagfyr 17 yng ngofal ei theulu yn ei chartref Pennant, Gwyddelwern yn 97 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Hugh Owen; mam ofalgar Gareth a Glenda ac Anwen a Cliff; nain gariadus Osian, Elgan, Gwion a Becky ac Einir Beuno; hen nain hoffus Emma a Llinos; chwaer Cledwyn a'r diweddar Pryce, Meirion ac Ella. Ei dymuniad oedd cael angladd hollol breifat a diffwdan fel y bu iddi fyw ei bywyd.Cysgwch yn dawel. Ymholiadau Peredur Roberts, Bridge Street, Corwen, LL210AB, 01490413452
Keep me informed of updates