Helen LloydOWEN16eg o Awst 2022, hunodd yn dawel yng Nghraig Tudor, Tyn-y-Gongl, yn 83 mlwydd oed. Annwyl wraig y diweddar Eifion, Mam gariadus a chefnogol Sioned a Gareth, mam-yng-nghyfraith a ffrind arbennig Eira, Nain balch Iolo a Gwïon, annwyl chwaer a chwaer-yng-nghyfraith Margo a Malcolm, Robert a Shirley. Gwasanaeth preifat yn ôl dymuniad Helen yng Nghapel Penuel, Llangefni, Ddydd Mercher 24ain o Awst 2022 ac yna fe'i rhoddir i orffwys ym mynwent Tabernacl, Tyn-y-Gongl. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Hosbis Dewi Sant Caergybi (sieciau i gyd yn daladwy i 'R & J Hughes and Son Ltd' neu ewch ar ein gwefan www.rjhughesandson.co.uk). Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr R & J Hughes and Son Ltd, Capel Penuel Chapel, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Ffôn: 01248 723 497.
Keep me informed of updates