Emrys FrancisOWENS11 Rhagfyr, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei deulu, yn dilyn cyfnod o salwch creulon a wynebodd yn ddewr, yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Borthwen, Garndolbenmaen yn 90 mlwydd oed.
Priod annwyl a chyfaill bywyd y diweddar Muriel, a thad amhrisiadwy Gwynedd a'i briod Karena, a Melfyn a'i briod Jackie. Taid balch Gwion, Dylan, Cari, Diane, Ian, Lois a Rhys; hen-daid Orla, Iddon, Mabon, Lily, Cai, Cara, Annie a Lucas, a brawd caredig Idwal a'i briod Moira, a'r diweddar Betty, Owen John, Glenys, Kate, Hefin a Tomos Aled. Brawd-yng-nghyfraith Hefin a'i briod Enid, a'r diweddar Robert John a Gwyndaf. Hefyd cefnder, ewythr a ffrind annwyl i lawer un.
Angladd fore Mercher, 8 Ionawr, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Horeb, Garndolbenmaen am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Dolbenmaen.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Dementia Actif Gwynedd, trwy law'r ymgymerwyr
Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, LL54 6PL, 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Emrys