GlynPARRYPARRY - GLYN Awst 7fed, 2009 yn dawel yn Ysbyty Gwynedd Bangor yng nghmwni ei deulu o Hianfa, Gaerwen gynt o Trefollwyn Goed, Rhosmeirch yn 87 mlwydd oed. Priod annwyl Mair, Tad gofalus i Helen, Bobby, David, Hefin, Rhiannon a'r diweddar Graham. Tad yng nghyfraith hoff i Mary a John a'r ddiweddar Mary. Taid balch Joan, Keith, Alwyn, Bethan, Delyth, Rhian, Dylan a Meinir a hen daid i Gethin, Guto, Sion, Dion ac Elin bach. Gwelir ei golli gan deulu a ffrindiau. Angladd cyhoeddus dydd Llun Awst 17eg gwasanaeth yn Eglwys Mihangel Sant, Garwen am 11 y bore ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Capel Ebenezer Rhosmeirch. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ambiwlans Awyr Cymru a chronfa staff Cartref y Rhos, Malltraeth trwy law yr Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Mon. LL77 7EF Ffon: 01248 723497.
Keep me informed of updates