CeredigPARRYPARRY - CEREDIG Hunodd yn dawel ar y 14eg o Fedi, 2009 yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, wedi brwydr hir a dewr o Sibrwd y Gwynt, Rhoslan, Criccieth yn 50 mlwydd oed. Gwr ffyddlon a ffrind gorau Eleri, tad balch a chariadus Gwynant Rhys. Mab annwyl Edith a'r diweddar Meirion Parry, brawd bach arbennig Bethan, mab yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith, nai ac ewythr hoff a ffrind i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Moreia Llanystumdwy dydd Gwener 18fed o Fedi am 1 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 3.30 o'r gloch. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil Leucemia a Ward Alaw Ysbyty Gwynedd trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Criccieth. (01766) 522854.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Ceredig