EmlynPARRYPARRY - EMLYN (Max), Ebrill 30, 2017. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref 38 Y Ddol, Porthmadog, yn 86 mlwydd oed. Priod annwyl a charedig Mabel, tad a thad yng nghyfraith arbennig Anwen a Mike, taid balch Shaun a'i bartner Ellie, Chris a'i wraig Aimee, brawd y diweddar Pyrs a John, a brawd yng nghyfraith Megan a'r diweddar Win. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, dydd Sadwrn 20fed o Fai am 11.30 y.b. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Hospis yn y Cartref a Nyrsus Gymunedol drwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Heol Dulyn, Tremadog. Ff?n 01766 512091.
Keep me informed of updates