Heulwen JonesPARRYHunodd yn hynod o sydyn ar ddydd Gwener, Ionawr 12fed yn ei chartref yn 70 mlwydd oed. Gwraig annwyl a chariadus i Bryn. Yn Fam arbennig i Gwenan, Manon a Cedri, a Nain annwyl a gofalus i Mared a Deian.
Gynt o 'Ynysfa' 7 Heol yr Eglwys, Penrhyndeudraeth. Merch i'r ddiweddar Robert Jones Humphreys a Margaret Elena Humphreys, ac yn chwaer i'r diweddar David Vernon. Mi fydd yn golled enfawr i'w theulu ai ffrindiau.
Gwasanaeth yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth ar y 25ain o Ionawr am 11 yb ac i ddilyn yn fynwent Minffordd.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof tyner am Heulwen at cancer Reasearch UK drwy law yr Ymgamerwr.
Am rhagor o wybodaeth, Cysylltwch a Tomos Rhys Parry-Ephraim Gwasanaethau Angladdol Cynfal Ar 07838227756 neu 01766762754
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Heulwen