Margaret ElizabethPHILLIPS(Betty) Yn dawel ar ddydd Mercher Awst 3, 2016, tra yng nghwmni ei theulu ar ei haelwyd yn Grug yr Awel, Ffostrasol, hunodd Betty; mam dyner Ann ac Emyr, mam-yng-nghyfraith barchus Neal ac Allison, mamgu gariadus Lowri, Hedydd a Jack, chwaer, chwaer-yng-nghyfraith a ffrind hoffus. Gwasanaeth angladdol a chladdedigaeth cyhoeddus ddydd Mercher Awst 10, yng Nghapel Bwlchygroes, Llandysul am 2 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig. Derbynnir cyfraniadau er cof, os dymuner tuag at 'Nyrsys y Gymuned Llynyfran a Marie Curie' trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiwpâl, Llandysul, Ceredigion SA44 5QH. Ffon. 01239 851005.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret