Benjamin CwerchyrPHILLIPS(Ben / Cweri) Yn dawel yng Nghartref Yr Hafod, Aberteifi ar ddydd Mercher Ionawr 4, 2017, hunodd Ben, Llwyncelyn, Ffostrasol yn 92 mlwydd oed; tad annwyl Alun, Rhiannon, Emyr, Hywel a Meirion; tadcu tyner Barry, Tina, Emma, Thomas a Carol; hen-dadcu hoffus Seren, Fflur, Ariana a Meira a brawd agos Lona. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus ddydd Mawrth Ionawr 17 yng Nghapel Brynmoriah, Brynhoffnant SA44 6DS am 1 o'r gloch ac yna i ddilyn gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 3.15 o'r gloch. Plethdorch y teulu'n unig. Derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at Meddygfa Cei Newydd neu Ward Meurig, Ysbyty Bronglais. Trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffon. 01239 851005.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Benjamin