Cyril EvansPHILLIPSYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Iau, Ionawr 9fed hunodd Cyril, gynt o Maes Dulais, Porthyrhyd. Tad Geraint a Geinor, tad-yng-nghyfraith Mark a Nia, tadcu Ela, Hannah ac Elin. Angladd dydd Mercher, Ionawr 22ain. Gwasanaeth preifat i'r teulu a ffrindiau yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 1.00yp. Dim blodau. Rhoddion, os dymunir, tuag at Ward Padarn, Ysbyty Glangwili trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626
Keep me informed of updates