Donald DerwynPOWELL(Derwyn 'B J') Yn sydyn ond yn dawel ar ddydd Iau Chwefror 26 2015 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin hunodd Derwyn o Derwen Gardens, Castell Newydd Emlyn, (gynt o Cefneithin) yn 82 mlwydd oed; Priod hoff Margaret, tad annwyl Sian, Cennydd a Huw; tad-yng-nghyfraith parchus Richard, Karen ynghyd a Mair; tadcu cariadus Heledd, Owain, Cerian, Hefin a Tomos; brawd tyner Orwig a'r diweddar Gwylfa. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yng Nghapel Y Graig, Castell Newydd Emlyn, dydd Iau Mawrth 5 am 2 o'r gloch ac yna I ddilyn, yn hollol breifat rhoddir I orffwys ym Mynwent y Gelli. Dim blodau, ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at Uned Gofal Dwys, Ysbyty Glangwili trwy law Mr Eifion Page, Lleifior, Blaenycoed, Cynwyl Elfed, SA33 6ET. Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis Ffon 01239 851005.
Keep me informed of updates