Lilwen JanePOWELLYn dawel yng Nghartref Nyrsio Brondesbury, Aberteifi ar ddydd Sadwrn, Hydref 11, 2014, hunodd Lilwen, Poplars, Rhydlewis yn 91 mlwydd oed; priod hoff y diweddar Thomas John, mam a mam-yng nghyfraith dyner Huw a Judith, Nora, Mic a Gwenan, Delme a Nic, mamgu gariadus Adam a Donna, Sophie a Marcus, Lucy ac Ed, Catrin, Nia, Lleucu a Sam, a Tomos, hen famgu Rory, Amy, Lara ac Owen. Gwasanaeth angladdol a chladdedigaeth preifat, yng Nghapel Hawen, Rhydlewis, ddydd Gwener, Hydref 17 am 11 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at 'Ffrindiau Cartref Brondesbury', trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ff?n 01239 851005.
Keep me informed of updates