Gwyneth MaiPRICEDymuna Carol, Janice, Enid a theulu'r ddiweddar Gwyneth Price, 33 Bro Eglwys, Bethel, ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam-yng-nghyfraith a nain annwyl ac arbennig. Gwerthfawrogwyd yr holl ymweliadau, cardiau, galwadau ffôn a'r rhoddion hael at Gymdeithas Alzheimer. Diolch i'r Canon Idris Thomas am ei wasanaeth urddasol, cyfraniad Y Parchedig Gerwyn Roberts, Eglwysbach ac i Mrs Eleri Bean, yr organyddes. Diolch i Meinir a staff ymgymerwyr Dylan Griffith, Penisarwaen am eu trefniadau trylwyr. Diolch o waelod calon i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwyneth