PhyllisPRITCHARDChwefror 3ydd 2025 yn dawel yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Nyrsio Plasgwyn, Pentrefelin, o Pentyrch Isa, Pencaenewydd, yn 87 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Owain Eifion Pritchard; Mam dyner Eifiona, Mair, John, Winston ac Ian; nain a hen nain gariadus ei holl wyrion, wyresau, gor wyrion a gor wyresau; chwaer hoff Olwen ac Agnes a'r diweddar John Trefor.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Pencaenewydd, dydd Iau, Chwefror 20fed am 11-30 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Chwilog.
Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Plasgwyn a Parkinson's UK Cymru trwy law yr ymgymerwyr
Henry Jones Cyf
Rhes Capel
Criccieth
(01766)522854.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Phyllis