John AlunPUGHYn frawychus o sydyn wrth ei waith yn Farmyard, Tremadog, ar 19eg o Fedi 2025 yn 71 mlwydd oed.
Priod annwyl Eleri, tad tyner Rhys, Rhian a Carys, a thad yng nghyfraith gofalus Sian a Llion. Taid balch iawn i Ynyr, Gwern, Gwenlli, Cadan ac Eban. Brawd ffyddlon Ann Ellen a'i phriod Wynne. Brawd yng nghyfraith, ewythr hoffus a ffrind tawel a thriw i lawer. Bydd colled enfawr ar ei ôl.
Angladd cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog, Dydd Sadwrn Hydref 11eg am 11:30 y bore, ac i ddilyn ym Mynwent Bethel.
Blodau gan y teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof am John Alun tuag at Ymchwil y Galon a Sefydliad DPJ drwy law yr ymgymerwyr
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH
01766 512091 -
post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates