James GarethREESGareth Yn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Mawrth, 11eg Rhagfyr, 2018 hunodd Gareth, Hafod, Llanwnen, yn 73 mlwydd oed, priod ffyddlon Megan, tad annwyl Teleri a Gethin, tad-yng-nghyfraith parchus Roger a Heather, tadcu hoffus Ceri, Laura, Osian a Ffion, hen-ddatcu didwyll Alisha a Kieron. Gwasanaeth Angladdol Preifat, yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth dydd Iau, 20fed Rhagfyr am 10.00 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at ' Respiratory Medical Unit ' Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, trwy law yr Ymgymerwr Angladdau, Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pâl, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffôn (01239) 851 005.
Keep me informed of updates