TegwenREESYn dawel yn Ysbyty Glangwili ddydd Sadwrn, 12 Hydref 2019, hunodd Tegwen,Trewen,Trelech, gynt o Treto Uchaf. Priod annwyl y diweddar William Howell, mam annwyl Eluned, Rhian a Philip, mam yng nghyfraith barchus Shan a'r diweddar Mike a Doug, mamgu a hen-famgu dyner. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Graig, Trelech ddydd Gwener 18 Hydref am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, tuag at Ward Derwen Ysbyty Glangwili a Chartref Maes Llewellyn (sieciau'n daladwy i Mr D L James Memorial A/C) trwy law'r Trefnwr Angladdau Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Caerfyrddin SA33 6TE 01994 484540/07974 313719.
Keep me informed of updates