Esther AnnREESMae'n flin gennym i gyhoeddi marwolaeth Esther Ann Rees 265 Peniel Green Road, Llansamlet a bu farw yn dawel yn ei chartref ar ddydd Sul 22ain o Hydref, 2023.
Priod annwyl iawn i Raymond, chwaer annwyl i Gwyn a'r diweddar Glenda, chwaer yng nghyfraith annwyl i Myrddin a'r diweddar Morfydd, modryb annwyl i Jeffrey, Andrew, Sue a Huw a hen fodryb i Zach, Josh, Hannah ac Izzy, roedd Helen, Andrea a John yn hoff iawn ohoni.
Bydd colled fawr ar ôl Ann gan y teulu cyfan a phawb oedd yn ei hadnabod.
Diolch o galon am y cefnogaeth a roddwyd gan Rosi a James, Ken ac Angela a Margaret ac Arthur yn ystod yr amser anodd hwn.
Gwasanaeth Angladdol ar Ddydd Gwener 17eg o Dachwedd am 1 o'r gloch y prynhawn yn Amlosgfa Margam.
Blodau'r teulu yn unig ond gellir gwneud rhoddion os dymunir i Dementia UK
trwy law: Gwyn Jones Trefnwyr Angladdau
132 Heol Trallwn
Llansamlet
Abertawe
SA7 9UU
Ffon: 01792 771066 / 07483125296
Keep me informed of updates