ElunedRICHARDS(Madam Lynne, Contralto) Yn sydyn ar ddydd Iau, Mawrth 5 yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, Eluned o Heol Pontarddulais, Tycroes, Rhydaman; priod hoff y diweddar Bryn, mam a llys-fam annwyl Susan, Brian a'r ddiweddar Mair, Mam 'Tycroes' gariadus Andrew a Melanie, Sharon a Philip a Julie a'r gorwyrion Brittany, Caitlin, Jake, Abigail a Sara, mam-yng-nghyfraith barchus Elfryn a'r diweddar Eric a Jean, chwaer ffyddlon, llys-famgu dyner a ffrind hawddgar. Angladd ar ddydd Gwener, Mawrth 20, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Moreia, Tycroes am 12.45 y prynhawn, ac oddi yno i Amlosgfa Llanelli erbyn 2 y prynhawn. Blodau'r teulu'n unig, rhoddion, os dymunir, tuag at Ambiwlans Awyr Cymru drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE.
Keep me informed of updates