DaisyRICHARDSRICHARDS - Dymuna Sioned, Morfydd, Nia, Llinos, Sian a teulu'r diweddar DAISY RICHARDS, 16 Lon Talwrn, Llangefni diolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Mam, Mam yng nghyfraith, Nain a Chwaer arbennig iawn. Diolch am y llu o gardiau, galwadau ffon ac ymweliadau. Diolch i'r Meddygon a'r Nyrsus am ei gofal, ac hefyd am y rhoddion hael o £620 a gasglwyd tuag at Cymorth Cancr Macmillan. Diolch i'r Parch Mr. Peter McClean, i'r organyddes Mrs. Mevys Williams ac yn olaf i'r Ymgymerwr Melvin Rowlands a'i gyd weithwyr am eu trefniadau gofalus.
Keep me informed of updates