EllenRICHARDSRICHARDS - Dymuna teulu y ddiweddar ELLEN RICHARDS, Tyddyn Gesa, Llanfairynghornwy ddiolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am yr holl gardiau, llythyrau, galwadau ffon a bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu colled. Diolch i'r gofalwyr cartref ac i Feddygfa Cemaes am eu gofal, i'r Parchedig Emlyn Richards, Mr Gwilym Jones, a'r organyddes Mrs Thomas am eu gwasanaeth ddiwrnod yr angladd. Diolch hefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof tuag at Feddygfa Cemaes, ac i Gareth o Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali, am y trefniadau. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates