EvanRICHARDSRICHARDS - EVAN, 31ain Rhagfyr 2017. Yn dawel yn ei gartref, Minffordd, Dyffryn Ardudwy yng nghwmni ei deulu yn 92 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Glenys a thad hoffus i John Llewelyn a'r ddiweddar Irene Janet. Taid cariadus Gwenith, Sion, Carwyn a Catrin. Hen daid annwyl Euros, Lois, Mari, Lowri a Lana. Brawd mawr tyner i Elizabeth, Catrin a'r diweddar Eleanor, Tom a John Bennet. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 10-30 bore dydd Sadwrn 13eg Ionawr 2018. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Cyfeillion Ysgol Dyffryn Ardudwy a Cylch Meithrin Y Gromlech, trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog (01766) 512091
Keep me informed of updates