Thomas John ArwynRICHARDSYn dawel yn ei gartref ar ol bywyd llawn bu farw Arwyn Fferm y Llandre, Llangyndeyrn ar ddydd Mawrth 20 Rhagfyr 2022. Priod cariadus y diweddar Morina, tad arbennig a gofalgar Elizabeth, Ann a Mary, tadcu addfwyn a llawn hwyl a sbri Iestyn, Aled, Ffion, Rhys a Leia, tad yng nghyfraith cefnogol Ian, John a Lynne a hen datcu sbesial Harri. Gwasanaeth Angladdol cyhoeddus dydd Mercher 4 Ionawr 2023 yng Nghapel Salem, Llangyndeyrn am 11.00 o'r gloch a gwasanaeth hollol breifat i ddilyn yn Amlosgfa Arberth. Dim blodau. Rhoddion os dymunir tuag at yr elusen Angor trwy law O.G. Harries Cyf. Trefnwyr Angladdau, Bethel, Heol yr Orsaf, Pontyberem, Llanelli SA15 5LF. Ffon 01269 870350
Keep me informed of updates