NonROBERTSGwyneth Meirionwen Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, wedi brwydr galed a di-gwyn yng nghwmni ei theulu yn 44 mlwydd oed, o Benrhyndeudraeth. Merch y diweddar Gwilym ac Elizabeth Roberts, mam gariadus Catherine a Iona, chwaer annwyl Gwilym a Dafydd a chwaer yng-nghyfraith Jackie a partner ffyddlon Barry. Gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor ar ddydd Mercher 8fed o Fawrth 2017 am 10.00 o'r gloch y bore gan ddilyn gyda gwasanaeth coffa yng Nghapel Nasareth, Penrhyndeudraeth am 3.00 o'r gloch y prynhawn. Bydd croeso i galarwyr wisgo lliw piws i'r angladd gan mae hwn oedd hoff liw Non. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog, LL49 9RH - 01766 512091.
Keep me informed of updates