LeriROBERTSYn dawel yng Nghartref Nyrsio Madog, Porthmadog yn 78 mlwydd oed, o Brynmor, 6 Osmond Terrace, Porthmadog. Priod gofalus y diweddar Mervyn a mam annwyl i Gwen, Wyn a Dylan. Nain balch a hoffus i'w holl wyrion a wyresau. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog dydd Gwener Ionawr 20 am 1.30 o'r gloch, ac yna i ddilyn ym Mynwent Minffordd. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Stryd Dulyn, Tremadog. 01766 512091.
Keep me informed of updates