Thomas HenryROBERTSROBERTS - THOMAS HENRY, Mawrth 21ain 2018. Yn dawel yng nghwmni ei deulu, yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog yn 89 mlwydd oed, cynt o Awelfor, 2 Stryd Lombard, Porthmadog. Priod addfwyn a ffyddlon Ceri. Tad a thad-yng-nghyfraith gofalus Gareth a Carys. Taid balch Sarah a Fiona a hen daid annwyl i Lydia ac Osian. Brawd annwyl Gwilym. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, dydd Mawrth, Ebrill 3ydd am 3.45 y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynir rhoddion yn ddiolchgar pe dymunir at Ambiwlans Awyr Cymru drwy law yr ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Stryd Dulyn, Tremadog. 01766 512091.
Keep me informed of updates