IonaROBERTSDymuna Emlyn, Dylan, Anne a'r teulu oll ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth lem o golli gwraig, mam a chwaer annwyl ac arbennig. Diolch am yr holl gardiau, galwadau ffôn a phob ymweliad, a diolch hefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Iona, dros £1,500 fydd yn cael ei rannu rhwng Ward Padarn, Ysbyty Eryri ac achosion da lleol eraill. Diolch arbennig i holl staff Ward Padarn am eu gofal diflino o Iona yn ystod ei gwaeledd. Diolch i'r Parchedig Gwenda Richards am ei gwasanaeth urddasol ddydd yr angladd, ac i'r organyddes Mrs Miriam Pritchard am ei gwasanaeth hithau. Yn olaf diolch i'r ymgymerwyr Roberts & Owen am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates