JeanROBERTSDymuna Gwynfor, Meilir, Derwyn a Gwennan a theuluoedd y diweddar Jean Roberts, Brythlys, Rhosmeirch (Anti Jean) ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt gan deulu a ffrindiau yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam, nain annwyl a hoffus a ffrind i lawer. Diolch i'r Parch John Owen gyda chymorth Y Parch Jim Clark am wasanaeth arbennig ddydd yr angladd ac i'r Dr Haydn Edwards, yr organydd. Diolch hefyd i'r Ymgymerwyr, Robin Hughes a'i fab am eu gwasanaeth trylwyr a gofalus. Diolch yn fawr iawn am y rhoddion hael o £2145 tuag at Ty Gobaith, Conwy, er cof am Jean.
Keep me informed of updates