Margaret EurwenROBERTSROBERTS - MARGARET EURWEN (Maggie), Rhagfyr 11eg. 2020. Yn dawel yng Nghartref Gofal Bryn Awelon, Cricieth, ac o 1 Bro Celyn, Clynnog Fawr, yn 96 mlwydd oed. Priod y diweddar Hugh Roberts, mam y diweddar Cyril Williams, mam yng nghyfraith Grace, nain Alwyn, Meirion a Llinos, hen nain Marcus ac Ellen a hen hen nain Lily, 'roedd hefyd yn chwaer, chwaer yng nghyfraith, modryb, hen fodryb a ffrind annwyl a hoffus. Angladd ddydd Iau, Rhagfyr 17eg. Gwasanaeth i'r teulu yn unig ar lan y bedd ym Mynwent Capel Uchaf ond i'r rhai ohonoch fuasai'n hoffi dod allan i dalu eich teyrnged olaf i Maggie bydd yr hers yn aros wrth fynedfa Llwyn y Ne, Clynnog Fawr am 10.30 y.b. cyn gwneud ei ffordd i Gapel Uchaf. Blodau'r teulu agosaf un unig, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Maggie at Gartref Bryn Awelon drwy law'r Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret