Eira WynROBERTSROBERTS - EIRA WYN, Mawrth 9, 2021. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Caerau, Tregarth a gynt o Llwyn Celyn, Waunfawr. Merch annwyl y diweddar Gwilym a Sheila Roberts, chwaer a chwaer yng nghyfraith annwyl i Lynn a'i phriod Glyn, Tony a'i briod Gwenda; modryb hoff i Gwen a'r plant Guto, Lois ac Ela Cêt, Gwyn a Liz a'r plant Emily, Jessica ac Oliver, Iestyn a Regina, Celfyn a Donna a'r plant Eban ac Erain, Llŷr a Zara a'r plant Ania ac Elia. Yn dilyn y cyfyngiadau presennol, gwasanaeth priefat ar lan y bedd ym Mynwent Y Plwyf, Betws Garmon, ddydd Mawrth, Mawrth 16, 2021 am 11 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Tŷ Gobaith. Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates