Llŷr BrynROBERTSA hunodd yn dawel ar y 26ain Chwefror 2023 yn ei gartref yn Trefor yng nghwmni ei deulu, yn 53 mlwydd oed. Priod annwyl Lois a thad cariadus i Swyn, Mabon, Caio a Gwenllian, mab i Ann a'r diweddar Bryn, brawd i Dylan a'r diweddar Awen a chyfaill ffyddlon i lawer. Gwasanaeth preifat i'r teulu yn Amlosgfa Bangor dydd Gwener y 10fed o Fawrth gan ddilyn gyda gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yng Nghanolfan Trefor am 1 o'r gloch. Bydd lluniaeth ysgafn wedi ei ddarparu yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn yn dilyn y gwasanaeth. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ymchwil Canser drwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Trefnwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn 01758 750 238
Keep me informed of updates