JaneROBERTSCoed y Garth, Y Ffôr. Hunodd yn dawel 30ain Mehefin 2023 yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Preswyl Bryn Meddyg, Llanaelhaearn yn 89 mlwydd oed. Yr hynaf o blant Lodge Uchaf Trallwyn. Priod ffyddlon y diweddar Wyn, mam gariadus Gwilym a'r diweddar Beti, mam yng nghyfraith hoffus Iola ac Alwyn, nain falch Medwyn a'i gymar Lowri, Eleri a'i chymar Dylan, Mererid a'i chymar Gethin, Dylan, Awen a'i phriod Dylan ac Alan a'i briod Elin, hen nain garedig Efa, Moi, Ania, Guto, Beca, Owi ac Eli, chwaer a modryb hoffus. Bydd yn golled i'w theulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth angladd cyhoeddus yng Nghapel Llwyndyrys dydd Llun, 10fed Gorffennaf am 11.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Pentreuchaf. Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gartref Bryn Meddyg a Chymdeithas Alzheimer's Cymru trwy law yr ymgymerwr. Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates