MarianROBERTS5 Medi, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac yn wreiddiol o Gaernarfon, yn 86 mlwydd oed. Gwraig y diweddar Robert Arfon Roberts, mam annwyl i Kevin a Karen, mam-yng-nghyfraith hoff Sulwen a Harry; nain a hen-nain falch Gemma, Aaron, Sara, Aled, Mari, Caio, Macsen, Guto, Nico, Aria a Swyn, chwaer Beryl a'r diweddar Eifion a merch y diweddar George ac Elizabeth Ellen Hughes. Angladd brynhawn Iau, 19 Medi, 2024. Gwasanaeth i deulu a ffrindiau agos yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Marian