Griffith RonaldROBERTS(Ronnie) 28 Rhagfyr, 2024. Yn sydyn ond yn dawel yn ei gartref, 83 Maes Padarn, Llanberis, yn 63 mlwydd oed. Priod cariadus Sioned, a thad hwyliog Bethan ac Elin a'u gwŷr Rhodri a Dave; taid balch Cadi, Alys, Ela ac Osian, a brawd hoff Reg, Iona a'r diweddar Raymond a'u teuluoedd. Hefyd yn frawd-yng-nghyfraith annwyl i Ian a Siân, Gwyn, Gwynant a Tegwen, a mab-yng-nghyfraith ffyddlon Glenda.
Angladd brynhawn Mawrth, 14 Ionawr, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis am 1.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Nant Peris. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ronnie, i'w rhannu rhwng y Clatterbridge Cancer Centre ac Apêl Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon, LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Griffith