Richard HarrisROBERTSHunodd yn dawel yn ei gartref, Bodowen, Penrhos, Pwllheli ar y 13eg o Chwefror, 2025, yn 84 oed.
Gŵr annwyl Iona Wyn a'r ddiweddar Olwen. Tad gofalus Shân a thaid Deio. Brawd Gwen, llys dad a thaid Peredur a Dyddgu a'u teuluoedd. Cyn brifathro Ysgol Llanllyfni a golffiwr o fri.
Cyflwyniad yn yr amlosgfa i'r teulu agosaf yn unig. Bydd p'nawn dathlu ei fywyd yn agored i bawb yng nghlwb golff Nefyn am 2:00 ar ddydd Mercher 19 o Fawrth.
Dim blodau, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ymchwil Cancr Cymru, nyrsus yn y gymuned, adran ieuenctid clwb golff Nefyn. Gwybodaeth bellach gan yr ymgymerwyr
G.W. Parry a'i Fab, Gallt y Beren, Rhydyclafdy. 01758 740233
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Richard