IeuanROBERTSHunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu ar y 14eg o Orffennaf, 2025 yn 94 mlwydd oed o Tŷ Capel y Porth, Porthmadog.
Gŵr fyddlon i'r ddiweddar Beryl; tad cariadus i Arwel, Meirion, Glyn a Carys; tad yng nghyfraith didwyll; taid a hen daid cefnogol a hwyliog.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog ar ddydd Gwener Awst 1af 2025 am 11.30 o'r gloch ac yna i ddilyn yn Amlosgfa Bae Colwyn am 2.00yh.
Blodau'r teulu yn unig, ond os dymunir, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ieuan tuag at SCBU a Tŷ Enfys Ysbyty Gwynedd drwy law'r ymgymerwyr.
Heol Dulyn, Tremadog,
Gwynedd LL49 9RH
01766512091
post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates