AnnROBERTSBrynmor, Lon y Traeth, Nefyn hunodd yn dawel ar ôl cystudd byr yng nghwmni ei theulu yn 91 mlwydd oed ar yr 2il o Fedi, 2026.
Gwraig annwyl y diweddar Bryn a mam gariadus i Dylan a'r diweddar Llŷr ag Awen, a mam yng nghyfraith Carys a Lois. Nain balch Swyn, Mabon, Llywelyn, Caio a Gwenllian a hen Nain i Lefi Llŷr. Chwaer ffyddlon Dewi a Hywel a'r diweddar Edgar a Lena, chwaer yng nghyfraith i Bethan, Mair, Blodwen a Buddug a'r diweddar Rhiannon. Modryb ffeind.
Gwasanaeth yng Nghapel Moreia, Morfa Nefyn am 11.30am dydd Sadwrn 19eg o Fedi 2026 ac yna rhoddir i orffwys ym mynwent Nefyn. Gwisgwch yn lliwgar (coch yn arbennig).
Blodau teuluol yn unig. Derbynnir rhoddion i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd trwy law'r ymgymerwr angladdau (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion)
Ifan Hughes
Ymgymerwr Angladdau
Ceiri Garage
Llanaelhaearn
Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates