IreneRODERICKYn dawel ar ddydd Llun, Medi'r 25ain 2017, yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yng nghwmni ei theulu hunodd Irene, gynt o 'Fferm Bryngolwg', Rhigos. Priod ffyddlon y diweddar Ieuan, Mam addfwyn David a Rhian, Mam yng nghyfraith hoffus Delyth a Steve a Mamgu annwyl Teleri, Gruffydd a Rhys. Gwasanaeth i'r teulu yng Nghapel Bethel, Rhigos am 11.00 o'r gloch ar ddydd Iau, Hydref y 5ed. Derbynnir cyfraniadau os dymunir i Gymdeithas Alzheimer drwy law Alun H. Lewis, Trefnwr Angladdau, Pentwyn, Pontneddfechan, Cwmnedd, SA11 5UE. Ff?n: (01639) 720245.
Keep me informed of updates