JohnROWLANDSROWLANDS - JOHN WYN. Tachwedd 20fed 2009. Yn dawel yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli yn 68 mlwydd oed ac o Cwm Cilio, Llanaelhaearn. Mab y diweddar Mary Elisabeth a Morris Elias Rowlands. Brawd a brawd yng nghyfraith caredig a ffyddlon Meinir a Iestyn, Mair a Richard, William a Diana, Nerys a Twm, Dewi a Nan a'r diweddar Helen a Buddug ac ewythr hoffus i'w neiaint a'i nithoedd a'u teuluoedd. Gwasanaeth angladd cyhoeddus yng Nghapel Pencaenewydd, dydd Iau, Tachwedd 26ain 2009 am 12.30 y prynhawn ac i ddilyn ym Mynwent Llanaelhaearn. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir er cof am John tuag at Gronfa Cyfeillion Bryn Beryl, trwy law'r Ymgymerwr, Ifan Hughes, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffon: 01758 750238.
Keep me informed of updates