HughROWLANDSROWLANDS - HUGH. Gorffennaf 21ain, 2009. Yn dawel yn ei gartref yng nghwmni ei deulu, o Pen Parc, Mynydd Bodafon yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl Mair, tad caredig Margaret a Wyn, taid hoffus Rachel a John ac Eirian a Martin a hen daid i Ben, Matty a Manon, brawd y diweddar Jennie a Maggie a brawd yng nghyfraith ac ewythr hoff. Gwelir ei golli gan deulu a ffrindiau. Angladd cyhoeddus dydd Llun, Gorffennaf 27ain, gwasanaeth yn eglwys Mihangel Sant, Penrhoslligwy am 2 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent yr eglwys. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Hafan Gobaith trwy law yr Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni. Ynys Mon. LL77 7EF. Ffon. 01248 723497.
Keep me informed of updates