Catherine EllenROWLANDSChwefror 1af 2024, hunodd yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei theulu yn 74 mlwydd oed o Maes Teg, 70 Ffordd Llaneilian, Amlwch. Priod cariadus a ffrind gorau Meurig, mam a mam yng nghyfraith werthfawr i Alma a Jon, Alwyn a Colette, nain falch i George, Zach, Noah, Mali, Elan a Caio, chwaer hoff John Richard Jones a chwaer yng nghyfraith annwyl Janet ac Owen Richard (Now), Elin a John Parry, David Vaughan a'r ddiweddar Diane. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Angladd ddydd Mercher Chwefror 14eg, gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Eilian, Llaneilian am 10.30 y bore. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Gymuned Llaneilian. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Lupus UK ac Ward Moelwyn, Ysbyty Gwynedd drwy law'r ymgymerwr
************************** February 1st 2024, passed away suddenly but peacefully at Ysbyty Gwynedd in the presence of her family aged 74 years of Maes Teg, 70 Llaneilian Road, Amlwch. Loving wife and best friend of Meurig, precious mother and mother-in-law of Alma and Jon, Alwyn and Colette, proud nain of George, Zach, Noah, Mali, Elan and Caio, fond sister of John Richard Jones and a dear sister-in-law of Janet and Owen Richard (Now), Elin and John Parry, David Vaughan and the late Diane. She will be sadly missed by her family and many friends. Funeral on Wednesday February 14th, public service at St. Eilian Church, Llaneilian at 10.30a.m. Followed by interment at Llaneilian Community Cemetery. Family flowers only but donation in memory will be kindly accepted and shared between Lupus UK and Moelwyn Ward, Ysbyty Gwynedd c/o the funeral director Melvin Rowlands Minafon Chapel of Rest, Glanhwfa Road, Llangefni, Anglesey, LL77 7FE. Tel: 01248 723111
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Catherine