MairROWLANDSMedi 28ain, 2024.
Pen Parc, Mynydd Bodafon, Ynys Môn. Yn 100 mlwydd oed, hunodd yn dawel yng Nghartref Gofal Bryn y Môr, Nebo, Llaneilian.
Gwraig annwyl y diweddar Hugh; mam gefnogol Margaret a Wyn. Nain falch Rachel ac Eirian a'i gŵr Martin; hen nain hoffus Ben a'i bartner Katie, Matty, Manon, Medi a Noah a hen hen nain Maisie a Teddie; Modryb garedig i lawer un. Fe'i rhagflaenwyd gan yr unarddeg o'i brodyr a chwiorydd. Gwelir ei cholli gan deulu a ffrindiau.
Angladd cyhoeddus ddydd Mawrth, Hydref 8fed, 2024. Gwasanaeth yn Eglwys Mihangel Sant, Penrhoslligwy am 12:00 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym Mynwent yr Eglwys.
Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Tŷ Gobaith drwy law yr ymgymerwr.
Arwyn Hughes Ymgymerwr, Bryn Hyfryd, Dulas, Ynys Môn, LL70 9PJ & Yr Hen Fecws, Marian-Glas, Ynys Môn. Tel: 01248 410353
Keep me informed of updates