DennisSPEAKE22 Rhagfyr, 2023. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref, Cae'r Efail, Y Felinheli yn 79 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Gwyneth, a thad cariadus Iona ac Ilid; tad-yng-nghyfraith triw Dewi a thaid balch ac arbennig Betsan.
Angladd brynhawn Mercher, 10 Ionawr, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Cedol, Pentir am hanner dydd, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Gymunedol Pentir.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion er cof am Dennis tuag at Gymdeithas y Ceffylau Gwedd. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates