BridieSYNNOTTHydref 1af 2024, hunodd yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yng nghwmni ei theulu yn 64 mlwydd oed o 19 Dolafon, Llangefni. Mam werthfawr a ffrind gorau Meurig, Bili a Coni, nain falch Hana, Lois, Hana Wyn, Efa Wen, Nansi, Brody, Baily ac Isla, chwaer arbennig i'w brodyr a chwiorydd a ffrind da i lawer. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Angladd ddydd Sadwrn Hydref 19eg, gwasanaeth i ddathlu ei bywyd yn Eglwys Sant Cyngar, Llangefni am 11.00 y bore. Rhoddir i orffwys ym Mynwent y Dref. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Bridie yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 23111
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Bridie