EllenTHOMAS(ELIN). 7 Ebrill, 2015. Yn dawel yn ei chartref, yn ystâd Bryn Rhos, Rhosbodrual, Caernarfon, yn 90 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar John Alun, a mam annwyl a hoffus Eurwyn a Neil; mam-yng-nghyfraith Allison a'r diweddar Catrin, nain ofalus Pryderi, Owain, Cai a Deio, a chwaer hoff Morfudd a'r diweddar Morris, Now, Geraint, John Bach, Mair a'u teuluoedd. Angladd brynhawn Mercher, 15 Ebrill, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 3.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Ymchwil Cancr Cymru. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 012878658.
Keep me informed of updates