Catherine JaneTHOMASTHOMAS - CATHERINE JANE (Cassie) Hydref 29ain 2014 yn dawel yng Nghartref Glan Rhos, Brynsiencyn lle gafodd ofal arbennig iawn, gynt o Bryntirion, Bethesda, yn 93 mlwydd oed. Gwraig gariadus y diweddar Oscar, mam annwyl Philip a Carys, a nain hoffus Ffion a Llinos, (nain Sebi), chwaer Elis ac Ann a'r diweddar Robert John, colled drist i'w theulu a ffrindiau. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, dydd Mercher, Tachwedd 5ed, am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ty Gobaith trwy law Gareth Williams Cyfarwyddwr Angladdau, 1 Garneddwen, Bethesda. Ffon:01248 600763
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine